Uwchraddio'ch Rhaniad Cyfnewid

Nid yw uwchraddio'ch rhaniad cyfnewid yn angenrheidiol ar gyfer pob uwchraddiad. Rydych wedi cyrraed y sgrîn yma oherwydd bod y raglen arsefydlu wedi pennu na fod gennych ddigon o gof i barhau â'r arsefydliad.

Yma gallwch ddewis creu ffeil gyfnewid ar eich disg galed. Trinir y ffeil gyfnewid fel rhith-gof ac y mae'n gwella perfformiad eich system.

Os nad ydych am greu ffeil gyfnewid yn ystod yr uwchraddiad yma, efallai byddwch am ystyried erthylu'r arsefydliad a chreu'r ffeil angenrheidiol eich hunan.

I greu ffeil gyfnewid, dewiswch y botwm nesaf at Creu ffeil gyfnewid.

Yn nesaf, gan ddefnyddio'ch llygoden, dewiswch y rhaniad lle bydd y ffeil gyfnewid yn byw.

Rhowch maint y ffeil gyfnewid (mewn MB) yn y maes darparedig.